Cenhadaeth Wledig Cymru | Rural Mission in Wales
Croeso
Yn Cenhadaeth Wledig (Rural Missions), rydym yn angerddol dros gefnogi ac arfogi eglwysi a chymunedau gwledig ledled y DU. Fel rhan o’r weledigaeth hon, rydym ar hyn o bryd yn ceisio ehangu a chryfhau’r gefnogaeth a gynigiwn i eglwysi, arweinwyr a chymunedau Cymraeg eu hiaith.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd iaith, diwylliant a chyd-destun mewn cenhadaeth, ac rydym yn ymrwymo i sicrhau bod ein hadnoddau a’n cefnogaeth yn hygyrch i’r rhai sy’n gwasanaethu mewn cyd-destunau Cymraeg eu hiaith.
Fel cam cyntaf, mae rhai o’n hadnoddau bellach ar gael yn Gymraeg, ac rydym yn falch o fod yn partneru gyda Chymdeithas y Beibl i gynnal cynhadledd ddwyieithog yng Nghanolfan Bererindod Mary Jones yn Y Bala ym mis Mehefin, gan archwilio sut y gallwn feithrin hyder wrth ddarllen, rhannu ac ymgysylltu â’r Beibl yng nghefn gwlad Cymru.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr adnoddau hyn a’r gynhadledd sydd ar ddod isod.
Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach a cherdded ochr yn ochr ag eglwysi Cymraeg eu hiaith wrth i ni, gyda’n gilydd, gymryd rhan yng nghenhadaeth Duw mewn cymunedau gwledig.
Welcome
At Rural Missions (Cenhadaeth Wledig), we are passionate about supporting and equipping rural churches and communities across the UK. As part of this vision, we are currently seeking to enhance and expand the support we offer to Welsh speaking churches, leaders and communities.
We recognise the importance of language, culture and context in mission, and we are committed to ensuring that our resources and support are accessible to those serving in Welsh speaking contexts.
As a first step, some of our resources are now available in Welsh, and we are delighted to be partnering with the Bible Society to host a bilingual conference at the Mary Jones Pilgrimage Centre in Bala this June, exploring how we can grow confidence in reading, sharing and engaging with the Bible in rural Wales.
You can find more information about these resources and the upcoming conference below.
We look forward to developing this work further and walking alongside Welsh speaking churches as together we join in God’s mission in rural communities.
